Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 24 Ionawr 2022
Amser:
13.32 -
14.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12583
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
2.1 SL(6)127 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(6)135 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Fframweithiau cyffredin
4.1 Fframwaith Cyffredin Arfaethedig ar gyfer Amddiffyn Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn cysylltiad â’r fframwaith cyffredin ar gyfer Amddiffyn Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd.
4.2 Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed a'r Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Organau, Meinweoedd a Chelloedd (ar wahân i embryonau a gametau)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn cysylltiad â'r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed a'r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer organau, meinweoedd a chelloedd (ar wahân i embryonau a gametau).
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Gorchymyn Deddf Nawdd Cymdeithasol (Yr Alban) 2018 (Cymorth Anabledd a Rhannu Gwybodaeth) (Darpariaeth Ganlyniadol ac Addasiadau) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
5.3 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Economi.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Hygyrchedd cyfraith Cymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.2 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg
6.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
6.4 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Cytundeb Masnach a Chydweithredu
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog, a chytunodd i ystyried llythyr drafft yn gofyn am ragor o wybodaeth yn ei gyfarfod nesaf.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig
8 Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23
Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a chytunodd arno, yn amodol ar rai mân ddiwygiadau.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) y Bil Cymwysterau Proffesiynol
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a chytunodd arno, a nododd y byddai’n cael ei osod cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.
11 Adolygiad o amserlen a chylchoedd gorchwyl y pwyllgorau
Cytunodd y Pwyllgor ar faterion i'w cynnwys mewn ymateb i lythyr y Llywydd ar yr adolygiad o amserlen a chylchoedd gorchwyl y pwyllgorau.
12 Blaenraglen Waith
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â'i flaenraglen waith a chytunodd i ystyried blaenraglen waith fanylach yn y cyfarfod nesaf.